Yr Ysgol Genedlaethol
Nawr yn farchnad hen bethau, fan yma oedd yr Ysgol Genedlaethol a sefydlwyd yn 1861 gan y Gymdethas Genedlaethol i Hyrwyddo Addysg y Tlawd mewn Egwyddor yr Eglwys Sefydledig. Yn ddiweddarach, defnyddiwyd fel ysgoldy Eglwys y Santes Fair.
Un ysgol Fictoriaidd arall oedd Ysgol East End, a agorwyd yn 1871 o ganlyniad i Ddeddf Addysg 1870 a roddai’r cyfrifoldeb am addysg i’r wladwriaeth gan sicrhau bod ysgol ar gael i bob plentyn.
( Pwynt 16 ar y Llwybr)
Edrychwch ar draws y ffordd i
Sgwâr y Llwyfen, sy’n nodi ffin Plwyf y Santes Fair i’r gorllewin a Phlwyf Sant Mihangel i’r dwyrain.
Dywedir fod pant yn y ffordd sy’n mynegi diwedd yr amddiffynfeydd cynharaf ; roedd estyniad y dref i’r dwyrain ar adeg hwyrach. Lle poblogaidd i ymgynnull oedd y sgwâr ond lladdwyd y goeden yn y 1970au gan y clefyd Iseldiraidd.
Mae’n debyg mai yn y safle hwn y cafwyd crocbren a chyffion y dref.
Ewch ymlaen i bwynt 8.
Fe ewch heibio i dai Georgiaidd diddorol; bu’r boneddigion lleol yn cadw nifer ohonynt yn dai tref.
Hefyd fe ewch heibio i’r Tabernacl, enghraifft o adeiladwaith mawreddog y cyfnod Fictoriaidd ac yn un o bedwar capel cyffelyb ym Mhenfro. Bydd ar agor am wasanaethau Sul, cyfarfodydd, arddangosfeydd ac ymgynnulliadau.