19

Yr Hen Wyrcws a Fferm Euraidd

Edrychwch ar draws y pwll i Riverside a adeiladwyd yn1839 fel Wyrcws Undeb Penfro o ganlyniad i Ddeddf y Tlawd yn1834. Yn hwyrach,defnyddiwyd yn uned famolaeth, swyddfa Gwasanaethau Cymdeithasol a chartref i’r henoed. Heddiw mae’n neuadd breswyl i’r digartref.

I dde Riverside, tu ôl i’r rhes o dai unllawr mae Fferm Euraidd, ar un adeg yn garchar i filwyr Ffrengig a ddaliwyd ger Abergwaun ar ôl goresgyniad olaf Prydain yn 1797. Un o chwedlau Penfro ydy stori dihangfa dau ohonynt gyda chymorth merched lleol.