29
Y Fynedfa Hir
Ar safle’r maes parcio presennol bu, tan y 1950au, heol gul â theras o fythynnod bychain, yn wreiddiol elusendai, i bob ochr. I’r pen draw bu cilddor, gât fach ym Muriau’r Dref i deithwyr fynd a dod wedi i’r tri phorth gael eu cau am y nos.