Y Comins
Cors llanw oedd y Comins ac amddiffynnai Mur Deol y dref. Yn y 19eg ganrif datblygai’n ganolfan i nifer o’r diwydiannau lleol.
Cynhwysai tanerdy, lladd-dŷ, gweithdy nwy a ffowndri haearn. Yn sgîl gwelliannau’r ardal mae rhai o’r hen adeiladau wedi’u haddasu – y ffowndri nawr yn Ganolfan Gymunedol, y tanerdy’n Glwb Ieuenctid a’r lladd-dŷ wedi’i gorffori i’r Ganolfan Hysbysrwydd a’r Llyfrgell.
Ar draws y ffordd mae ardal a elwir”Orange Gardens”, maestref 19eg ganrif a adeiladwyd i letya niferoedd o weithwyr yr Iard Longau Frenhinol, Doc Penfro, a agorwyd yn 1814.
Edrychwch i’r dde i weld cefn TafarnYork a’r Capel Canoloesol y cyfeiriwyd atynt yn Pwynt 5.
Llwybr amgen 3
Croeswch i’r llwybr troed a chadwch i’r chwith i ddilyn y Prif Lwybr ar hyd y rhan o Furiau’r Dref sydd wedi goroesi orau.
Trowch i’r dde ar hyd y Comins i Bwynt 24 heibio i’r Ganolfan Hysbysrwydd (toiledau). Gyferbyn â’r Ganolfan gwelwch faes chwarae i blant.