10

Y Cefn Dwyreiniol Neu East Back

Rheda’r Cefn Dwyreiniol yn gyfochrog â’r Stryd Fawr nes ail-gwrdd ar Sgwâr y Llwyfen.  Fan yma gallwch weld un o’r tapiau dŵr cyntaf ger cyn-Gapel y Bedyddwyr Bryn Siriol sydd hefyd nawr yn ganolfan gwerthu hen bethau; mae’n werth cael cipolwg ar y capel hyfryd hwn.

Drws nesaf bu Gweithdy Peirianneg John ac Archibald Stephens neu “Knacky Stephens” .

Mae nawr yn dŷ preifat ond gallwch weld y dyddiad 1873 ar y gatiau haearn gyr. Mae’r ddolen ar ffurf llaw plentyn: castiwyd o law Corbett, mab Archibald, pan oedd yn 5 oed.

Gallwch weld arddangosfa ac archif lluniau o’r busnes Fictoriaidd anturiaethus yn Amgueddfa Penfro, Neuadd y Dref.