Teras Orielton
Ar draws y ffordd, mae Teras Orielton yn heol gul uwchlaw lefel y stryd ag arni res o dai deniadol. Un o’r tai mawr yn y canol ydy Tŷ Orielton, tŷ tref y teulu Owen o Orielton a feddai ar fwyafrif Penfro ac a gynrychiolai’r fwrdeistref yn y Senedd. Enw arall ar y Teras ydy “ Chain Back “.
Ar lefel y ffordd mae yna garreg filltir gynnar ac un o’r tapiau dŵr gwreiddiol. I’r dde, yr adeilad â’r ffenest fwa ydy Tafarn York gynt, un o’r tafarnau hynaf yn y dref ond nawr yn breswylfa preifat. I’w gefn mae hen adeilad carreg a elwir y Capel Canoloesol. Defnyddiwyd ar un adeg fel tŷ cwrdd Wesleaidd lle pregethai John Wesley ambell waith.
Dywedir fod Cromwell hefyd wedi aros yma rhai diwrnodau yn dilyn Gwarchae Penfro tra’n goruchwylio manylion yr ildiad. Gwelir yr adeilad yn glir o bwynt 12.