3

Sinema Haggar

Nawr yn glwb nôs, Paddles, ar un adeg, Sinema Haggar oedd canolfan bywyd cymdeithasol Penfro, yn cynnwys sinema, tŷ bwyta a neuadd ddawnsio.

Roedd William Haggar yn arloeswr y lluniau symudol yn y 20fed ganrif, ac ymwela â Ffair Penfro gyda’i biosgôp neu sinema deithiol.

Erbyn 1914 roedd y teulu Haggar wedi creu tua 60 o ffilmiau, rhai ohonynt wedi’u gwneud yn lleol ac yn denu llwyddiant rhyngwladol.

Parha nifer o’r ffilmiau a gallwch eu gweld yn Amgueddfa Penfro lle ceir hefyd archif o luniau teuluol. Yn raddol fe sefydlwyd sinemâu fel hon ym Mhenfro a reolwyd gan y teulu Haggar nes cau yn 1982.

Edrychwch ar draws y ffordd.

Yn y 18fed ganrif roedd Banc NatWest yn dafarn goetsio o’r enw Y Ddraig Werdd, a gwelwch y bwa coets hyd hyn.

Drws nesaf, mae Maclaren’s yn dŷ Georgiaidd gyda ffenest gron go iawn.

Wrth y groesfan Pelican, croeswch y ffordd ac yn symud ymlaen i