16

Sgwar Pen Dwyrain (East End)

Dyma safle Porth y Dwyrain a fu lle nawr saif Tafarn y Dderwen Frenhinol.

Hwn oedd y cryfaf o’r tri phorth a ddisgrifiwyd felly gan John Leland yn 1538 – “fairest and strongeth, having afore it a compasid tower not rofid in, and entering thereof is a Portcolys ex solide ferro”

Neuadd Sant Mihangel ac Ysgol East End

Yn 1873 sylfaenwyd yr ysgol hardd Fictoriaidd hon wedi’i  hadeiladu o galchfaen nadd . Mae nawr yn wag. Disodlwyd hi gan Ysgol Gynradd Gelli Aur, sy’n weddol agos.

Nes ymlaen ar hyd y ffordd fe welwch Gorsaf Rheilffordd Penfro.  Adeiladwyd y llinell gan Gwmni Rheilffordd Penfro a Dinbych y Pysgod. Agorwyd hi yn1863, a’i hestyn i Ddoc Penfro’r flwyddyn nesa. Yn anffodus dymchelwyd yr hen adeiladau Fictoriaidd.

Cadwch i’r chwith a chroeswch y ffordd ar y groesfan wedyn ewch ymlaen i 17 Rhodfa’r Ceffyl Du