25

Rhiw Drwsgl Ac Hen Neuadd Monkton

Daw’r tro cyntaf i’r dde i fyny’r Rhiw Drwsgl – enw addas iawn – i mewn i Monkton.

Ar y dde mae Hen Neuadd Monkton. Adeiladwyd yn y 14eg a’r 15ed ganrif er mae’r claddgell bwaog llawer cynharach. I gefn y Neuadd mae simne gron Fflemaidd.  Bu nifer o ychwanegion hwyrach, newidiadau ac adferiadau: mwy diweddar ydy’r adnewyddiad a wnaed gan y “ Landmark Trust “ a mae nawr yn llety gwyliau.

Credir i’r Neuadd fod yn westy i ymwelwyr pwysig pan oeddent ar daith i’r Priordy.

Dyma un o’r adeiladau teuluol hynaf yng Ngymru, ac wrth gwrs mae ganddo ei fwgan!