Pont Y Felin
Mewn gwirionedd argae llanw ydy’r bont, wedi’i hadeiladu yn yr Oesoedd Canol i yrru melin ŷd y dref. Nodir i’r felin gael ei rhoi i Farchogion y Deml tua 1199.
Yn 1830 adeiladwyd felin pum llawr fawreddog (saif un debyg yng Nghaeriw) ond fe’i dinistrwyd gan dân yn 1956, a’i dymchwel.
Dim ond y sail sydd ar ôl – dyma lle awgrymir lleoli cerflun Harri V11.
I’r dde mae Cei’r Gogledd lle saif y Storfa Yd adnewyddedig sy’n cynnwys siop a chaffi wedi’i amgylchynu gan fflatiau modern. Nes ymlaen ar Draeth y Gogledd mae Rocky Park, cwarel calchfaen a roddodd ei enw i ardal o dai modern.
O’r pwynt hwn, arluniwyd y castell gan nifer o artistiaid y 18ed a’r 19eg ganrif gan gynnwys J M W Turner, Paul Sandby a Charles Morris. Cewch ragor o wybodaeth yn Amgueddfa Penfro.
Rheolir y llanw nawr gan argae sy’n galluogi cadw dŵr ym Mhwll y Castell o bryd i’w gilydd. Hefyd gallwch gerdded o gwmpas y Pwll i ochr Orllewinol y Castell.