30
Gwesty Arfau’r Brenin a’r Llew
Tafarnau coets oeddynt yn dyddio’n ôl i’r 18ed ganrif. Y Llew oedd y man cychwyn i Goets y Post Brenhinol. Bu bwáu coets i’r ddau adeilad er mwyn mynd i gefn y dafarn gyda choets a cheffylau ond nawr maent wedi’u bricio’n gau. Adeiladwyd Gwesty’r Llew gan y teulu Owen o Orielton. Cynrychiola’r arwydd teuluol gan y cerflun o lew aur. Ar un adeg dyma westy mawreddog yn ymestyn hyd at y Fynedfa Hir ond mae nawr wedi’i rannu’n dri adeilad.
Mae King’s Arms yn westy hyd heddiw. Gwelir yno nodweddion diddorol, gan gynnwys grisiau Chippendale Sieineg. Mae Neuadd y Dref (pwynt 1) drws nesaf . Rydych wedi cwblhau’r Llwybr Tref. Llongyfarchiadau.