26

Eglwys Y Priordy

Mae Eglwys y Priordy Sant Nicolas a Sant Ioan ar agor i’r cyhoedd bob dydd ac mae’n werth ymweld.

Eglwys hynaf Penfro, roedd yn rhan o’r Priody Benedictaidd a roddwyd i Abaty Seez yn Normandy yn 1098. Sefydlwyd ar safle anheddfa Gristnodol llawer cynharach.

Rhoddwyd y gorau i’r Priordy yn 1536 yn dilyn diddymiad y mynachdai gan Harri V111.

Disgynai’r adeiladau’n adfeilion, proses a gyflymwyd gyda chymorth Cromwell, a leolodd y gynnau mawr yn y fynwent yn ystod Gwarchae’r Dref yn1648.

Atgyweiriwyd yr eglwys yn y 1880au gan Canon David Bowen, ac ymwelwyd â hi yn 1902 gan Edward V11.

Mae’r Ffenest Ddwyreiniol ysblennydd yn coffáu hyn – llyfryn ac arddangosfa yn yr Eglwys.

I chwith yr Eglwys gallwch weld  (eiddo preifat)

I chwith yr Eglwys gallwch weld  (eiddo preifat)

ADFEILION Y PRIODY A’R FFERM

Dim ond bwàu rhydd-sefyll a wal talcen tŷ sydd ar ôl o’r adeiladau gwreiddiol ar wahân i’r hyn a gorfforwyd yn Eglwys y Priordy. Dengys luniau awyrol a ffurfiau tir bod sylfeini sylweddol yn bodoli.

Mae’r ffermdy cyfagos ar ffurf maenordy neu dŷ tŵr o’r 14eg neu 15ed ganrif, er gydag ychwanegion diweddarach. Credir mai dyma’r cyn-blas i’r Prior.

Yn y caeau i orllewin y ffermdy mae colomendy canoloesol a fyddai’n bwysig er mwyn cael cyflenwad o gig ffres yn ystod y Gaeaf.

 

 

Ewch yn eich ôl i Bont Monkton-pwynt 24 ac ewch i fyny’r rhiw tuag at y Castell.