Castell Penfro
Sefydlwyd y Castell yn 1098 ar ôl goresgyniad gan Arnulf o Drefaldwyn a’r Normaniaid pan adeiladwyd amddiffynfa pren yma. Cafodd ei hail-adeiladu yn y 13eg ganrif gan Iarll Penro, William Marshal ac mae’n enwog fel man geni Harri V11.
Dengys ei bysigrwydd gan fod Oliver Cromwell ei hun wedi arwain gwarchae iddo yn 1648 ac wedyn gorchmynu ei ddinistr.
Mae’r Castell wedi cael adnewyddion helaeth- yn y 19eg ganrif gan yr hynafiaethydd T R Cobb ac wedyn gan Syr Ivor Phillips. Dena’r castell nifer fawr o ymwelwyr ac hefyd cynhelir lawer o ddigwyddiadau adloniadol yno.
O flaen y Castell saif y Senotaff, wedi’i adeiladu yn 1924. Lluniwyd ef ar Senotaff Llundain. Gosodwyd y seddau pren cerfiedig gan Ymddiriedolaeth Dinesig Penfro i ddathlu geni’r Tywysog Harri yn1985.