4

Caffi Pysgod a Sglodion Brown

Un o’r busnesau hynaf ym Mhenfro sy’n dyddio’n ôl i 1928, agorwyd y “chippie” gan Sid a Connie Brown ac mae’r teulu’n dal i’w redeg. Gwobrwywyd Conni â’r MBE a daliai i weini pysgod a sglodion tan ddiwedd ei bywyd yn 102 oed. Daeth yn un o gymeriadau chwedlonol Penfro.

Drws nesaf mae adeilad John Francis, Gwerthwyr Tai. Dywedir mai dyma dŷ tref John Poyer, Maer Penfro yn ystod Rhyfeloedd Cartref 1642-1648. Yn y lle cyntaf cefnogai Poyer y Senedd ond newidiai ochr i ddilyn y Brenin. Beth bynnag achosai’r weithred hon Warchae Penfro gan Oliver Cromwell yn 1648 ac o ganlyniad dinistr y castell a muriau’r dref.

Gallwch weld arddangosfa ardderchog yn y castell.