Croeso i Llwybr Tref Penfro

Mae tref ganoloesol Penfro, man geni Harri Tudur, yn un o’r Bwrdeistrefi hynaf yng Nghymru.

Dominydda’r dref gan ei chastell ysblennydd a sylfaenwyd yn 1093 gan Arnulf o Drefaldwyn, a datblygai’n ardal lwyddiannus oherwydd ei masnach forawl dan reolaeth bwerus leirll Penfro, yn enwedig William Marshal – y mwyaf dylanwadol.  Sefydlwyd galon hanesyddol y dref adeg hyn ac mae’n amlwg hyd heddiw gydag un stryd hir wedi’i hymylu gan siopau a thai wedi’u codi ar leiniau bwrdais tu mewn i’r hen furiau.

Mae Castell Penfro’n enwog fel man geni llinach frenhinal y Tuduriaid.  Yn 1457 ganwyd Harri i Margaret Beaufort, hithau’n 13 oed, tra dan nawdd ei brawd yng nghyfraith, Jasper, Iarll Penfro. Pan fu farw, trosglwyddwyd yr iarllaeth i Harri VIII.  Anrhegai’r hawlfraint Iarlles Penfro i Anne Boleyn.

Unwaith eto codai Penfor i flaenoriaeth yn ystod Rhyfeloedd Cartref y 17eg ganrif pan oruchwyliwyd ddinistr y Castell a’i furiau gan Cromwell ei hun.  Er nad oedd Penfro i ddenu pwysigrwydd cenedlaethol eto, gwelwyd adfywiad ei ffyniant yn y 18ed ganrif pan ei disgrifiwyd felly gan Daniel Defoe “the largest, richest and at this time the most flourishing town in all of South Wales.”

Yn y canrifoedd canlynol gwelwyd amryw gyfnewidiadau i lwyddiant Penfro wrth iddi ddatblygu o borthladd a chanolfan amaethyddol i’r gyrchfan dwristaidd a welwn heddiw.

Felly dilynwch y Llwybr Tref – llawer mwy I ddarganfod am ein tref hanesyddol.