Lleoliad Blaenorol
30Gwesty Arfau'r Brenin a'r LlewLleoliad Nesaf
2
Eglwys Blwyf Y Santes Fair1
Neuadd Y Dref Penfro








Adeilad Georgiaidd sy'n dyddio yn ôl i 1830, mae'r Neuadd wedi gweld llawer o newidiadau. Un adeg roedd yr adeilad yn agored ar lefel y stryd gyda grisiau allanol i fyny i Siambr y Cyngor uwchben. I'r cefn roedd Neuadd Farchnad fawr lle cawn nawr neuadd ddinesig fodern. Mae yna lawer i ddiddori'r ymwelydd. Ar furiau'r cyntedd a'r grisiau gwelir y mur-luniau a beintwyd gan George a Jeanne Lewis – hanes darluniadol o Benfro drwy'r oesoedd. Rhaid eu gweld. ( Llyfr cyfarwyddo ar gael ) Ar y llawr cyntaf (lifft i'r anabl) mae'r cyn-lys sydd nawr yn Amgueddfa – mynediad am ddim.
Edrychwch ar draws y ffordd.
Yn wreiddiol bu marchnad agored ar lefel stryd Tŷ'r Cloc. Amgaewyd hyn yn ei ffurf bresennol pan ail-adeiladwyd y tŵr yn ystod y 1880au. Ar y tŵr mae dau gerub plwm: dywedir fod pedwar ers talwm – un ar bob cornel. Honnir i awdurdodau'r eglwys wrthwynebu bechgyn noeth yn goruchwylio'r fynwent felly tynnwyd nhw i ffwrdd a'u gosod ar bileri T#0302;y Porthor Orielton ger Tafarn y Speculation, Hundleton.

Croeswch a throwch i'r chwith. Ewch ymlaen i Eglwys y Santes Fair ar ddechrau Stryd Porth y Gogledd. (Darklin)
Lleoliad Blaenorol
30Gwesty Arfau'r Brenin a'r LlewLleoliad Nesafn
2
Eglwys Blwyf Y Santes Fair